Ein stori

Y Dechrau

Yn haf 2013, fe wnaeth ein cyfarwyddwr a’n prif hyfforddwr, Ben Clifford, fwrw i’r dwfn a chychwyn ysgol syrffio addasol a chynhwysol cyntaf Cymru. Cafodd Surfability UK ei sefydlu, ac roedden ni ar genhadaeth i wneud syrffio yn hygyrch i bawb.

Dyna sut ddechreuodd Surfability UK.

Nawr

Rydyn ni wedi dod yn bell. Ar un adeg roedden ni’n ysgol syrffio fach yn gweithio allan o gar, ond erbyn hyn mae Surfability UK yn ysgol syrffio addasol, arloesol. Rydyn ni’n gweithredu o ddau adeilad pwrpasol ym Mae Caswell, Bro Gŵyr, gydag ystafelloedd newid hygyrch, cyfleusterau sychu cit a storfa helaeth ar gyfer ein hamrywiaeth gynyddol o offer hygyrch.

Rydyn ni ar flaen y gad o ran syrffio addasol byd-eang. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein hyfforddwyr Ben Clifford a Toby Williams wedi rheoli Tîm Syrffio Addasol Cymru, gan fynychu nifer o gystadlaethau rhyngwladol, gan gynnwys Pencampwriaethau Syrffio Addasol y Byd yng Nghaliffornia bob blwyddyn.

Mae ein hymwneud â syrffio addasol byd-eang yn parhau i dyfu. Yn ddiweddar, fe wnaeth ein prif hyfforddwr a chyfarwyddwr, Ben Clifford, gyd-ysgrifennu Cymhwyster Hyfforddwr Syrffio Addasol y Gymdeithas Syrffio Ryngwladol. Mae’r cymhwyster hwn, sy’n seiliedig ar y gweithdrefnau gweithredu a ddatblygwyd yn Surfability UK, yn gosod safon byd ar gyfer hyfforddiant syrffio addasol.