Dulliau o syrfio
“Y syrffiwr gorau yw’r un sy’n cael y mwyaf o hwyl.”
Duke Kahanamoku
I ni yn Surfability UK, mae syrffio yn ymwneud â chael hwyl. Rydyn ni’n addasu i anghenion ein syrffwyr fel y gallan nhw reidio’r tonnau, cyrraedd eu nodau syrffio ac, yn bwysicaf oll, cael hwyl wrth wneud hynny. I gyflawni hyn, rydyn ni’n cynnig gwersi syrffio mewn pedwar dull gwahanol: bwrdd sengl, tandem, gorwedd i lawr neu dandem â sedd.
Syrffio Bwrdd Sengl

Mae’r arddull syrffio hon ar gyfer syrffwyr sy’n gallu defnyddio bwrdd ar eu pennau eu hunain. Bydd ein tîm yn addasu’r lefel o gymorth a roddir, yn dibynnu ar anghenion unigol ein syrffwyr. Mae’r cymorth hwn yn gallu amrywio o roi cyfarwydiadau llafar i syrffwyr annibynnol, i gymorth un-i-un parhaus.
Mae gwahanol ffyrdd o syrffio, ac rydyn ni’n annog ein syrffwyr i syrffio mewn ffordd sy’n gyfforddus iddyn nhw. Ar fwrdd sengl, gall ein syrffwyr syrffio ar eu pen-gliniau, wrth orwedd i lawr neu ar eu traed.
Syrffio Tandem

Mae’r arddull syrffio hon ar gyfer syrffwyr sydd angen cymorth gyda chydbwysedd, neu sydd yn ei chael yn anodd dilyn cyfarwyddiadau. Bydd syrffwyr yn derbyn cymorth un-i-un parhaus gan o leiaf un aelod o’n tîm.
Eto, rydyn ni’n annog ein syrffwyr i syrffio mewn ffordd sy’n gyfforddus iddyn nhw. Ar fwrdd tandem, gall ein syrffwyr syrffio wrth eistedd, ar eu pen-gliniau neu wrth orwedd i lawr. Rydyn ni hefyd yn gallu helpu syrffwyr iau i sefyll.
Syrffio Tandem â Sedd

Mae’r arddull syrffio hon ar gyfer syrffwyr sy’n ei chael hi’n anghyfforddus neu’n anodd eistedd, penlinio neu orwedd. Mae syrffwyr yn derbyn cymorth pedwar-i-un, gydag un aelod o’n tîm yn syrffio tandem gyda nhw, tra bydd aelodau eraill o’r tîm yn rhoi cymorth yn y dŵr rhag ofn y bydd ton yn achosi i rywun gwympo oddi ar y bwrdd.
Syrffio Gorwedd i Lawr

Mae’r arddull syrffio hon ar gyfer syrffwyr nad ydyn nhw’n gallu sefyll/penlinio ar fwrdd, ac sydd angen cymorth ychwanegol ond a fyddai’n hoffi syrffio mor annibynnol ag sy’n bosibl. Bydd syrffwyr yn derbyn cymorth gan ddau aelod o’n tîm, un sy’n gwthio’r syrffiwr i’r tonnau ac un sy’n “dal” y syrffiwr yn y dŵr bas.
Mae ein byrddau syrffio wedi’u haddasu’n arbennig i bobl y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i’w helpu i aros ar fwrdd syrffio, gyda handlenni ychwanegol a chynhalydd ar gyfer brest y syrffiwr.