Rhoi Arian
Sut allwch chi helpu Surfability?
Yn Surfability, rydyn ni’n credu y dylai pawb brofi’r wefr o syrffio.
Rydyn ni ar genhadaeth i wneud syrffio mor gynhwysol ag sy’n bosibl. Rydyn ni’n darparu ar gyfer anghenion ychwanegol ein syrffwyr fel y gallan nhw gael y mwyaf allan o syrffio a chael profiad diogel a hynod bleserus.
Gallwch ein cefnogi mewn sawl ffordd.
Gallwch chi wneud cyfraniad unigol, neu gyfrannu bob mis.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi’ch caredigrwydd a’ch haelioni yn fawr iawn, ac mae pob rhodd yn ein helpu i gael mwy o bobl yn y môr i syrffio.
Diolch am eich cefnogaeth yn ein cenhadaeth i wneud syrffio mor gynhwysol ag sy’n bosibl!
Neu, gallwch chi brynu nwyddau Surfability gwych yn ein siop ar-lein! Mae pob cynnyrch a werthir yn ein helpu i gael mwy o bobl yn y môr i syrffio.
Os na allwch ein helpu yn ariannol, gallwch chi ein cefnogi ni drwy ledaenu’r gair! Cofiwch hoffi, rhannu a dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol:
Drwy ddilyn a rhannu ein taith, gallwch chi ein helpu i gyrraedd rhagor o bobl a chodi ymwybyddiaeth o’n pwrpas a’n nod!

Nwyddau Surfability
Edrychwch ar ein siop ar-lein! Mae gennym amrywiaeth eang o siwmperi a chrysau-T i oedolion a phlant.

Rhoi arian yn rheolaidd heb PayPal
Os hoffech chi roi arian yn rheolaidd heb ddefnyddio cyfrif PayPal, dewiswch y swm isod a chlicio ar y botwm ‘Cerdyn Debyd neu Gredyd’.