Croeso i Surfability UK
Profiadau syrffio addasol a chynhwysol
Mae Surfability UK yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sy’n darparu gwersi a phrofiadau syrffio i bobl sydd ag anghenion ychwanegol oherwydd anabledd, salwch, anaf neu anawsterau dysgu.
Ein nod yw cyfuno’r arferion gorau o addysg arbennig, gofal iechyd, syrffio ac achub bywydau i wneud syrffio mor gynhwysol ag sy’n bosibl. Rydyn ni’n darparu ar gyfer anghenion ychwanegol ein syrffwyr fel y gallan nhw gael y mwyaf allan o syrffio a chael profiad diogel a hynod bleserus.
Rydyn ni’n rhedeg gwersi syrffio yn ardal hardd Bae Caswell, Bro Gŵyr drwy gydol y flwyddyn, gyda rhai o’r tonnau gorau yn y DU ar gyfer dechreuwyr. Yn y gaeaf, rydyn ni hefyd yn darparu gwersi sglefrfyrddio dan do i’n syrffwyr y mae môr y gaeaf yn rhy oer iddynt.

A ninnau ar flaen y gad o ran syrffio addasol byd-eang, rydyn ni wedi creu offer anhygoel i gynyddu cynhwysiant. Fe wnaethom greu’r bwrdd syrffio tandem â sedd cyntaf yn y DU, sy’n rhoi modd i ni roi profiadau syrffio i bobl na allan nhw eistedd i fyny heb gymorth.
Mae ein hoffer arbenigol yn rhoi modd i ni ddarparu syrffio i bobl na fydden nhw’n gallu syrffio ar eu pennau eu hunain. P’un a oes angen ychydig neu lawer o help ychwanegol ar gyfranogwr, mae ein dull tîm yn sicrhau y gallwn ni roi profiad syrffio gwych i bawb.